Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

CA582

 

Teitl: Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i godi ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, a ddarperir yn uniongyrchol neu a sicrheir gan yr awdurdod lleol (defnyddwyr gwasanaeth). Nid yw’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod awdurdod lleol yn ceisio cael unrhyw daliad gan D tuag at y gost o sicrhau y darperir y gwasanaeth, neu’r cyfuniad o wasanaethau, wrth i’r awdurdod wneud taliad

uniongyrchol i D i’w alluogi i sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffi amdano; fodd bynnag, mewn achosion pan yw’n ofynnol gan awdurdod lleol bod D yn gwneud taliad tuag at gost sicrhau gwasanaeth o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn ac unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003.

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

Mae anghysondeb rhwng rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r testun. Mae rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiwn Saesneg yn cyfeirio at y geiriau ‘am wasanaethau’ (‘for services’) mewn perthynas â ‘manylion ynghylch yr uchafswm rhesymol y caniateir ei wneud yn orfodol’ (‘details of the maximum reasonable charge’) yn unol â rheoliad 5, tra mae rheoliad 7 (1) (b) (iv) yn y fersiwn Gymraeg yn hepgor y geiriau ‘am wasanaethau’ felly nid yw’n glir am ba reswm y mae’r uchafswm rhesymol yn cael ei godi yn unol â rheoliad 5 yn y fersiwn Gymraeg. 

 

(Rheol Sefydlog 21.2 (vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; a Rheol Sefydlog 21.2 (vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).

 

Rhinweddau: craffu

 

Gweler CLA(4)-01-11(p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.  

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Ebrill 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

 

Mae’r pwynt adrodd wedi ei dderbyn. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn deddfwriaeth ddiwygio gerbron cyn gynted â phosibl, o fewn tri mis i’r Rheoliadau ddod i rym ar yr hwyraf.